Campwaith Telford – pont grog yn esgyn uwchben hyd hynod o ddŵr
Roedd gan Thomas Telford lygaid craff am ddylunio diwydiannol prydferth. Mae etifeddiaeth Telford yr Albanwr; ei ffyrdd, ei gamlesi a’i bontydd, gan gynnwys Pont Grog y Fenai, yn tystio mai ef o bosib oedd peiriannydd sifil gorau Prydain.
Dechreuwyd ar yr orchest fawreddog hon yn 1819, gan adeiladu’r ddau dŵr mawr ar naill ochr i’r afon. Mabwysiadwyd y gwaith o adeiladu’r bont gan John Wilson, saer maen o fri, yn 1820. Adeiladwyd ganddo strwythur a oedd yn lledu dros 577 troedfedd, a hon oedd y bont grog hiraf yn y byd am nifer o flynyddoedd. Ar un adeg, roedd llongau hwylio’r Llynges Frenhinol yn mordwyo’r dŵr gyda’u mastiau uchel o hyd at 100 troedfedd, ac roedd yn rhaid i ddyluniad Telford gydymffurfio â’r fanyleb hanfodol hwn!
Cwblhawyd y bont yn 1826 gan ffurfio’r cyswllt olaf a mwyaf hanfodol ar y ffordd bost (yr A5 bellach) o Lundain i Ddulyn.
Sicrhawyd defnydd y bont ar hyd y canrifoedd drwy ei haddasu’n bwrpasol. Fodd bynnag, mae’n debyg mai un o’r dulliau adeiladu gwreiddiol – socian y bariau haearn mewn olew llinad cyn eu peintio i atal rhwd – a fu’n ysbrydoliaeth i Lewis Carroll gynnwys y llinellau a ganlyn yng ngherdd y Marchog Gwyn yn ei lyfr plant, Through the Looking Glass:
I heard him then, for I had just
Completed my design
To keep the Menai bridge from rust
By boiling it in wine.