Teithiwch yn ôl mewn amser ar y daith hanesyddol hon
Rheilffordd lein gul (1tr. 11½ modfedd/ 60 cm), sydd wedi’i chadw’n hardd ac mae hon yn rhedeg am 13½ milltir drwy ganol Eryri o Flaenau Ffestiniog i Borthmadog.
Fe’i sefydlwyd yn 1932 gan Ddeddf Seneddol Cwmni Rheilffordd Ffestiniog ac erbyn hyn mae wedi uno â Rheilffordd Ucheldir Cymru sydd gerllaw. Dyma’r cwmni rheilffordd hynaf yn y byd sy’n dal yn bodoli ac mae wedi cadw ei annibyniaeth gydol ei hanes. Fe’i hadeiladwyd i gludo llechi o’r chwareli o gwmpas Blaenau Ffestiniog i borthladd Porthmadog ac yn wreiddiol tynnwyd y wagenni gan geffylau. Golygai'r graddiant di-dor 1:80 i lawr allt rhwng y mynyddoedd a’r arfordir y gallai’r wagenni llwythog rowlio'r holl ffordd drwy ddisgyrchiant a dynion oedd yn rheoli’r brêc a chyflymdra’r trên. Roedd wagen arbennig, sef y wagen ‘dandy’ yn cario’r ceffylau a fyddai’n tynnu’r trên gwag yn ôl i fyny’r allt.
Yn 1863, cyflwynwyd locomotifau a yrrwyd gan stêm o’r math 0-4-0 ac yn 1865, daeth Ffestiniog y rheilffordd lein gul gyntaf ym Mhrydain i gynnig yr un lefel o wasanaeth i deithwyr â’r prif linellau rheilffordd. Yn fuan wedi hynny, yn 1869, cyflwynwyd y cyntaf o’r locomotifau Fairlie pen dwbl cymalog. Ers hynny, daeth y peiriannau hyn yn un o nodweddion amlycaf y rheilffordd. Parhaodd y trenau oedd yn mynd i lawr weithredu â disgyrchiant yn unig hyd nes y daeth y gwasanaethau i deithwyr i ben yn 1939.