O gell meudwy syml i fynachlog dywysogaidd.
Yn ôl y chwedl, y Cristion cyntaf a ymgartrefodd ym Mhenmon oedd meudwy o’r enw Seiriol yn y 6ed ganrif. Mae i weld yn fan tebygol i rywun sy’n chwilio am unigrwydd. Yn llythrennol, mae Penmon yn golygu ‘penrhyn Ynys Môn’ ac mae adfeilion y Priordy’n llenwi darn anghysbell, gwyntog o dir sy’n ymwthio i mewn i Fôr Iwerddon.
Daeth Penmon yn gyrchfan pwysig i bererinion yn y Canoloesoedd. Caiff ffynnon hynafol, sydd i’w gweld o hyd i ogledd yr eglwys, ei henwi ar ôl Sant Seiriol ac roedd yn boblogaidd gydag ymwelwyr oedd yn chwilio am ei ddyfroedd iachaol. Yn 971, ymosododd ymosodwyr Llychlynnaidd ar y gymuned fynachaidd fan hyn, gan achosi cryn ddinistr. Fodd bynnag, mae modd gweld y ddwy groes garreg o’r 10fed ganrif a bedyddfaen addurnedig sydd wedi goroesi yn yr eglwys heddiw.
Talodd Gruffudd ap Cynan i’r eglwys gael ei hailadeiladu yn y 12fed ganrif, ac mae’r tŵr a welwch heddiw, gyda’i do carreg siâp pyramid trawiadol, yn dyddio i’r adeg hon. Y tu mewn i’r eglwys, chwiliwch am y cerfiad o ganol y 12fed ganrif dros y bwâu o dan y tŵr. Dyma rywfaint o’r gwaith gorau o’i fath yng Nghymru.
Daeth Penmon yn Briordy Awstinaidd dan Llywelyn Fawr. Cafodd yr adeilad mawr i’r de i’r eglwys ei ychwanegu er mwyn lletya ystafell fwyta ac ystafell gysgu, ac mae digon o hyn yn goroesi i gael syniad amlwg o sut beth oedd bywyd dyddiol i’r mynachod. Gallwch barhau i weld sedd y ffenestr y byddai aelod o’r gymuned wedi darllen y Beibl ar goedd ohono wrth i’w frawd fwyta mewn tawelwch – gan fwyta o bosibl bysgod o’r pwll mawr i ddwyrain y fynwent.
Cafodd Priordy Penmon ei chwalu pan wnaeth Harri VIII ddarostwng y mynachlogydd ym 1537. Ar ddiwedd yr 16eg ganrif, daeth y tiroedd i ddwylo teulu Bulkeley. Adeiladon nhw’r colomendy aruthrol sy’n sefyll ar ochr arall y ffordd i’r eglwys.
Man gwyntog i archwilio rhai hen adeiladau rhyfeddol arni.
Mynediad am Ddim
O Fiwmaris, cymerwch y B5109 i’r gogledd am 1.7 milltir. Trowch i’r dde wrth gyffordd-T a pharhewch ar hyd y lôn i’r Priordy.
10.3 milltir o orsaf drenau Llanfairpwllgwyngyll.
Dim gwasanaeth bws addas.
Rhyw 4 milltir ar ffyrdd tawel o Fiwmaris.
Mae Llwybr Arfordir Ynys Môn yn cysylltu Biwmaris a Phenmon – mae’n daith gerdded o ryw 4 milltir.
Hawdd. Ni chaniateir cŵn.
Ffigur Llawn y Cyfeirnod Grid: NGR SH63048072 Cyfesurynnau ar gyfer defnyddwyr SatNav Garmin: -4.056608, 53.305754 Taflen map OS explorer: 263