Ynys anghysbell, agored gydag adfeilion atmosfferig safle pererindod pwysig.
Yn y Canol Oesoedd, roedd Ynys Enlli (neu Bardsey Island) yn gyrchfan pwysig i bererinion Cristnogol. Yn wir, dywedwyd bod tri ymweliad i’r fan hon yn gyfwerth ag un ymweliad i Rufain. Yn ôl pob sôn, mae 20 mil o ‘wŷr sanctaidd’ wedi’u claddu yn ei bridd, ond pwynt dadl yw sut gallai cynifer gael eu lletya ar ynys sydd ond 1½ filltir o hyd ac 1 filltir ar draws ar ei bwynt mwyaf llydan. Yr hyn na allwch ei wadu yw awyrgylch arbennig y lle, a gaiff ei feithrin gan ei natur anghysbell a’r cymysgedd cyfoethog o hanes a chwedloniaeth sydd wedi adeiladu o’i gwmpas.
Saif yr ynys 2 filltir oddi ar drwyn pen Llŷn, ac mae’n parhau’n anodd mynd ato hyd heddiw. Mae’r enw Ynys Enlli’n golygu ‘yr ynys yn y cerhyntau’, ond mae’r daith ar draws y dyfroedd tymhestlog yn cynnig digon o wobrau. Pan fyddwch chi ar yr ynys, mae’n werth bwrw tuag at adfeilion Abaty Santes Fair, yn y gogledd. Dim ond adfeilion tŵr o’r 13eg ganrif sy’n sefyll heddiw, a gafodd ei adeiladu pan sefydlwyd Priordy Awstinaidd yma dan deyrnasiad Llywelyn Fawr.
Heddiw, mae’r tŵr yn sefyll mewn mynwent cymharol fodern, ond mae dwy garreg fedd ganoloesol o’r sylfaen wreiddiol wedi goroesi ac mae modd eu gweld y tu mewn i’r tŵr. Mae un o’r rhain, sy’n dyddio i’r 10fed neu’r 11eg ganrif, wedi’i cherfio â ffigwr dynol. Dim ond y rhan is sy’n goroesi; daw dwy goes i’r amlwg o sgert bletiog, ac o gwmpas yr ymyl mae arysgrif yn rhedeg sydd i weld yn cofio ‘Esyllt’ neu enw tebyg.
Mae Ynys Enlli gyfan yn warchodfa natur heddiw. Mae’n lle heddychlon a hynod swynol i gerdded o’i chwmpas.
Man o unigrwydd, ynys i grwydro arni ac i fyfyrio ar daith bywyd.
Mynediad am Ddim
Gallwch ond fynd yno ar gwch wedi’i drefnu ymlaen llaw o Borth Meudwy neu Bwllheli.
Mae Aberdaron 17½ milltir o orsaf drenau Pwllheli.
Gwasanaeth bws i Aberdaron.
Gallwch ond fynd yno ar gwch wedi’i drefnu ymlaen llaw o Borth Meudwy neu Bwllheli.
Gallwch ond fynd yno ar gwch wedi’i drefnu ymlaen llaw o Borth Meudwy neu Bwllheli.
Canolig. Angen esgidiau cerdded. Ni chaniateir cŵn.
Ffigur Llawn y Cyfeirnod Grid: NGR SH12002217 Cyfesurynnau ar gyfer defnyddwyr SatNav Garmin: -4.788985, 52.764454 Taflen map OS explorer: 253