Man gorffwys terfynol ar gyfer arch tywysoges Gwynedd.
Mae Biwmaris, sy’n golygu ‘y gors brydferth’, yn sefyll ar ben dwyreiniol Y Fenai, y dyfrffordd gul sy’n gwahanu Ynys Môn oddi wrth dir mawr Cymru. Creadigaeth Edward I oedd y dref, fel ffordd o haeru ei reolaeth newydd dros Ogledd Cymru ar ôl iddo’i choncro ym 1283. Yn yr un modd â’r castell godidog i lawr y ffordd, cafodd yr eglwys ei hadeiladu’n bennaf ar ddechrau’r 14eg ganrif.
Mae prif atyniad yr eglwys yn sylweddol hŷn na’r adeilad ei hun. Yn y cyntedd deheuol mae arch garreg blaen o’r 13eg ganrif gyda chaead wedi’i addurno’n brydferth arni - campwaith o gelfyddyd y cerfiwr carreg. Mae’r rhan uchaf yn portreadu torso a phen menyw. Mae ei dwylo wedi’u codi o flaen ei brest, ei chledrau’n wynebu tuag allan mewn ystum o weddi. Ac ar ei phen mae gwimpl a choron - y prif gliw i’w hunaniaeth. Y corff a lenwai’r arch hon ar un tro oedd un Siwan, ‘boneddiges Cymru’, merch y Brenin John o Loegr, a gwraig Llywelyn Fawr.
Bu farw Siwan ym 1237 a chafodd ei chladdu gerllaw ar arfordir Ynys Môn, yn Llanfaes, lle sefydlodd Llywelyn Frodordy Ffransisgaidd er cof amdani. Dioddefodd arch Siwan sarhad mawr yn y blynyddoedd a ddilynodd, fel y mae’r plac uwch ei phen yn cofnodi. Cafodd ei defnyddio fel cafn i geffylau tan y 19eg ganrif pan gafodd ei hachub a’i chludo i’r eglwys ym Miwmaris. Nid oes neb yn gwybod beth ddigwyddodd i’w chorff.
Heddiw fodd bynnag, caiff yr arch ei hanrhydeddu’n glir unwaith yn rhagor. Mae breichiau brenhinol tŷ Gwynedd yn cael eu dangos gerllaw ac yn aml, caiff blodau ffres eu canfod ar y caead - sy’n awgrymu’r anwyldeb sy’n parhau i gael ei deimlo am hon sy’n ferch i frenin o Loegr ac yn wraig i dywysog Cymru.
Talwch deyrnged i dywysoges Gymreig a mwynhewch archwilio tref atyniadol Biwmaris.
Mynediad am Ddim
Mae modd dod o hyd i’r eglwys yn hawdd yng nghanol tref Biwmaris, rhai cannoedd o lathenni o’r A545.
8 milltir o orsaf drenau Llanfairpwllgwyngyll
Mae sawl bws yn gwasanaethu Biwmaris. Ffoniwch Traveline Cymru ar 0871 200 2233 neu ewch ar-lein i http://www.traveline-cymru.info i gael y wybodaeth ddiweddaraf am gludiant cyhoeddus.
Mae’r eglwys yng nghanol tref Biwmaris.
Mae’r eglwys yng nghanol tref Biwmaris.
Hawdd.
Ffigur Llawn y Cyfeirnod Grid: NGR SH60407612 Cyfesurynnau ar gyfer defnyddwyr SatNav Garmin: -4.094646, 53.263659 Taflen map OS explorer: 263