Safle dramatig safiad olaf Gwynedd.
Hyd yn oed ar fore disglair, gyda’r haul sy’n codi’n tywynnu ar Fwlch Llanberis uwchlaw, mae gan Gastell Dolbadarn bresenoldeb difrifol, digroeso bron. Mae ar fryncyn creigiog rhwng dau lyn – Llyn Peris a Llyn Padarn – wrth droed yr Wyddfa.
Mae’r tŵr siâp silindr 15 metr o uchder, gyda’i ffenestri o lechi llwyd tywyll a llydan wedi bod ar ei draed ers i Llywelyn Fawr ei adeiladu ar ddechrau’r 13eg ganrif. Fodd bynnag, efallai y bu caer ar y safle strategol hwn cyn gynted â’r 6ed ganrif. Byddai’n gwneud synnwyr. Mae’r castell yn edrych dros Fwlch Llanberis, a gall pwy bynnag sy’n meddu arno reoli mynediad yn effeithiol i galon fynyddig Eryri yn ogystal â’r ffordd tuag at Ynys Môn. Mae’r castell yn sefyll hefyd yng nghalon tiroedd pori cyfoethog yr haf a dewychodd y gyrroedd mawr o wartheg oedd mor ganolog i economi’r tywysogion.
Mae’r tŵr tipyn yn fyrrach nag ydoedd yn ei anterth, pan oedd yna lawr ychwanegol, y credir bod Llywelyn ap Gruffudd wedi’i ddefnyddio fel carchar ar gyfer ei frawd Owain, ar ôl iddo’i drechu mewn brwydr i gael rheolaeth ar Wynedd. Mae amheuaeth nad oedd y golygfeydd gwych o’r tŵr yn fawr o iawndal am yr 20 mlynedd treuliodd Owain dan glo.
Ym 1283, ar ôl i Llywelyn ap Gruffudd gael ei ladd gan filwyr Lloegr, ceisiodd ei frawd, Dafydd, drefnu’r gwrthsafiad olaf i rymoedd Edward I o Gastell Dolbadarn. Fodd bynnag, cafodd ei gipio yn y pen draw a chafodd farwolaeth erchyll – cafodd ei grogi, ei ddiberfeddu a’i chwarteru – yn Amwythig.
Mae’r cofnodion yn awgrymu bod y coed o Ddolbadarn wedi’u defnyddio gan Edward ar gyfer y castell newydd a adeiladodd yng Nghaernarfon. Mesur symbolaidd yn ogystal ag ymarferol, gan ddangos yn ddidrugaredd cyfanrwydd buddugoliaeth y Saeson dros dywysogion Gwynedd.
Man drymaidd i fyfyrio ar farwolaeth grym daearol, cyn cerdded neu fynd ar y trên i ben y Wyddfa, neu fynd ar gwch ar draws y llyn.
Mynediad am Ddim
½ milltir i’r de-ddwyrain o Lanberis ar yr A4086.
9 milltir o orsaf drenau Bangor.
Mae bysiau’n stopio yn Llanberis. Ffoniwch Traveline Cymru ar 0871 200 2233 neu ewch ar-lein i http://www.traveline-cymru.info i gael y wybodaeth ddiweddaraf am gludiant cyhoeddus.
½ milltir i’r de-ddwyrain o Lanberis ar yr A4086.
½ milltir i’r de-ddwyrain o Lanberis ar yr A4086.
Hawdd. Angen esgidiau cerdded. Caniateir cŵn.
Ffigur Llawn y Cyfeirnod Grid: NGR SH58605980 Cyfesurynnau ar gyfer defnyddwyr SatNav Garmin: -4.114238, 53.116506 Taflen map OS explorer: OL17