Caer strategol gyda hanes tanllyd.
Mae Castell Deganwy wedi’i gysylltu â Maelgwn, rheolwr pwerus Gwynedd yn y 6ed ganrif. Cafodd Maelgwn ei alw’n enwog yn ‘ddraig yr Ynys’ gan y Croniclydd Gildas o Loegr – cyfeiriad oedd hyn at fwystfil yr Apocalyps a chysylltiadau cryf y brenin gydag Ynys Môn. Yn 812, cafodd y gaer ei tharo gan fellt a llosgodd. Deng mlynedd yn ddiweddarach, cafodd ei ddinistrio gan oresgynwyr Sacsonaidd. A gwelodd y canrifoedd a ddilynodd olyniad o rymoedd yn trigo, yn cryfhau ac yna’n dinistrio Castell Deganwy, mewn sawl achos er mwyn ei atal rhag syrthio i ddwylo’r gelyn.
Daeth y gaer yn sedd i Robert o Ruddlan, yr uwch-arglwydd Normanaidd ffiaidd a reolodd Gwynedd yn ystod diwedd yr 11eg ganrif. Aeth allan i farchogaeth o Ddeganwy gan farw dan gawod o bicelli’r Cymry ym 1093. Ym 1213, ailgododd Llywelyn Fawr y castell a’r gred ymhlith llawer yw bod pen carreg wedi’i gerfio’n gain sy’n dyddio i’r cyfnod hwn yn bortread o Llywelyn ei hun. Mae modd gweld y cerflun rŵan yn Amgueddfa Genedlaethol Cymru yng Nghaerdydd.
Ailgodwyd Castell Deganwy am y tro olaf rhwng 1245 a 1250, y tro hwn gan y Brenin o Loegr Harri III; sefydlodd fwrdeistref yma hefyd ym 1252. Os cerddwch i fyny i’r castell heddiw, gallwch weld gweddillion cadarnle Harri: gwaelod pâr o dyrau, un ar bob un o’r ddau gopa, a wal yn cysylltu’r ddau.
Fodd bynnag, ni fyddai waliau Harri’n sefyll am amser hir. Ym 1257, ymosododd Llywelyn ap Gruffudd, gan gael gwarchae ar y castell am dair blynedd cyn ei ddinistrio yn y pen draw ym 1263. Pan goncrodd Edward I Wynedd ym 1282, ildiodd y safle yn Neganwy ac adeiladu castell newydd ar ochr arall yr afon. Mae modd gweld y cadarnle a gadwyd yn wych hwn, sef Castell Conwy, o adfeilion Deganwy.
Man da am daith gerdded iachusol, gyda golygfeydd da dros Gonwy a Phen y Gogarth.
Mynediad am Ddim
Mae modd cyrraedd adfeilion y castell trwy lwybr troed sy’n arwain oddi ar York Road yng nghanol pentref Deganwy.
Taith gerdded fer o orsaf drenau Deganwy.
Mae sawl bws yn gwasanaethu Deganwy. Ffoniwch Traveline Cymru ar 0871 200 2233 neu ewch ar-lein i http://www.traveline-cymru.info i gael y wybodaeth ddiweddaraf am gludiant cyhoeddus.
Mae modd cyrraedd adfeilion y castell trwy lwybr troed sy’n arwain oddi ar York Road yng nghanol pentref Deganwy.
Mae modd cyrraedd adfeilion y castell trwy lwybr troed sy’n arwain oddi ar York Road yng nghanol pentref Deganwy.
Canolig. Angen esgidiau cerdded. Caniateir cŵn.
Ffigur Llawn y Cyfeirnod Grid: NGR SH78207950 Cyfesurynnau ar gyfer defnyddwyr SatNav Garmin: -3.829669, 53.297854 Taflen map OS explorer: OL17