Hen eglwys hyfryd o heddychlon sy’n lletya darn rhyfeddol o gerflunwaith.
Mae Betws-y-Coed yn golygu ‘tŷ gweddi'r goedwig’ ac mae’r pentref modern yn cymryd ei enw o oratori hynafol, neu ‘fetws’, a arferai sefyll ar lan orllewinol Afon Conwy. Mae’r safle’n cael ei ddefnyddio heddiw gan hen eglwys braf Sant Mihangel.
Cafodd Eglwys Sant Mihangel ei hadeiladu yn y 14eg ganrif ac mae newydd gael ei hadnewyddu’n gariadus. Mae’n lle bach cyfareddol, sy’n sefyll mewn mynwent dan gysgod coed ywen 1000 o flynyddoedd oed. Roedd y fynwent hon yn hoff bwnc i’r gytref o arlunwyr a fwriodd gwreiddiau ym Metws-y-Coed yn y 19eg ganrif ac mae’n cynnig noddfa groesawgar heddiw i ffwrdd o brysurdeb cymharol y pentref.
Mae’r ymdeimlad o heddwch yn parhau ar y tu mewn. Mae’r eglwys i weld yn rhyfeddol o blaen ar yr olwg gyntaf, gyda waliau glân wedi’u gwyngalchu a seddau syml o bren. Ceir darnau o wydr lliw canoloesol a bedyddfaen syml. Felly, mae’r bedyddfaen, a gafodd ei cherfio yn y 13eg ganrif, yn hŷn na’r eglwys ei hun.
Gerllaw’r allor saif rhyfelwr canoloesol wedi’i gerfio o garreg, sy’n gwisgo arfwisg brwydr lawn ac wedi’i arfogi â chleddyf a dagr. Mae ei ben yn gorffwys ar helmed ac mae llew yn swatio wrth ei draed. Mae ei ddwy law wedi’u plethu ynghyd, ac o gwmpas yr ymyl, mae arysgrif Lladin “Fan hyn, gorwedd Gruffudd ap Dafydd Goch, Oen Duw, bydd trugarog wrthyf.”
Brwydrodd Gruffudd Frwydr Poitiers ym 1356, ochr yn ochr ag Edward, y ‘Tywysog Du’, mab Edward III. Bu farw rhywbryd yn y 1370au. Nid oes neb yn gwybod pam y mae delw grand Gruffudd yn bodoli yn amgylchedd syml Sant Mihangel - mae’n amlwg iddo gael ei dorri i lawr i ffitio’r fan mae ynddi rŵan. Fodd bynnag, y gred yw bod Gruffudd wedi perchen ar y tir ar un tro yn yr ardal a’i fod wedi byw mewn tŷ, Fedw Deg, 2 filltir i’r de.
Cymerwch seibiant i fyfyrio ymhlith coed hynafol y fynwent cyn edrych ar y cerflun gwych ar y tu mewn.
Mynediad am Ddim
Hawdd dod o hyd iddi, i’r gogledd o ganol Betws-y-Coed, gerllaw’r orsaf drenau.
Taith gerdded fer i’r dwyrain o orsaf drenau Betws-y-Coed.
Ceir bysiau rheolaidd i Fetws-y-Coed ac oddi yno. Ffoniwch Traveline Cymru ar 0871 200 2233 neu ewch ar-lein i http://www.traveline-cymru.info i gael y wybodaeth ddiweddaraf am gludiant cyhoeddus.
Hawdd dod o hyd iddi, i’r gogledd o ganol Betws-y-Coed, gerllaw’r orsaf drenau.
Hawdd dod o hyd iddi, i’r gogledd o ganol Betws-y-Coed, gerllaw’r orsaf drenau.
Hawdd.
Ffigur Llawn y Cyfeirnod Grid: NGR SH79605656 Cyfesurynnau ar gyfer defnyddwyr SatNav Garmin: - 3.799516, 53.092632 Taflen map OS explorer: OL17