Etifeddiaeth barhaus Sant cynnar o Gymru.
Oddeutu 525 O.C, symudodd uchelwr Cristnogol ifanc o’r enw Deiniol i Wynedd o’i gartref teuluol ym Mhowys, yng nghanolbarth Cymru. Rhoddodd rheolwr Gwynedd ar y pryd, Maelgwn Gwynedd, dir iddo yn agos at yr arfordir, mewn dyffryn cysgodol gerllaw afon, er mwyn adeiladu mynachlog arno. Cododd Deiniol ffens bleth o gwmpas y tir hwn, a chodi adeiladau ei fynachlog arno: celloedd i’w gydfynachod ac eglwys fach. Yr enw am y math hwn o amgae yw bangor, ac felly cafodd y ddinas fodern ei henw o’r strwythur cynnar, syml hwn.
Saif Eglwys Gadeiriol o garreg, wych Sant Deiniol ar yr union fan yr oedd y sant yn byw arni gyntaf, sy’n golygu mai dyma’r sefydliad eglwys gadeiriol gynharaf ym Mhrydain - ond nid oes dim o’r strwythurau gwreiddiol wedi para. Cafodd yr eglwys ei dinistrio gan ymosodwyr Llychlynnaidd yn 1073 ac mae’r rhannau cynharaf sy’n goroesi o’r adeilad presennol yn dyddio i’r 12fed ganrif. Chwiliwch am y ffenestr gron sydd wedi’i llenwi, mae modd ei gweld ar y tu allan, yn uchel i fyny ar y wal de-ddwyreiniol.
Cafodd y gwaith ailadeiladu yn y 12fed ganrif ei ariannu gan dywysog Gwynedd ar y pryd, Gruffudd ap Cynan. Mae wedi’i gladdu wrth ochr yr allor fawr, ynghyd â’i feibion, Cadwaladr ac Owain Gwynedd, a’i holynodd fel rheolwr Gwynedd ym 1157.
Mae’r Eglwys Gadeiriol wedi dioddef sawl ymosodiad dros y canrifoedd. Yn y 13eg ganrif, cafodd ei difrodi mewn dau oresgyniad o Gymru gan frenhinoedd Lloegr, John yn gyntaf ac wedyn Edward I. Cafodd yr adeilad ei losgi’n wael unwaith eto ym 1402 yn ystod gwrthryfel Owain Glyndŵr yn erbyn y Saeson. Ac eto, mae Sant Deiniol wedi goroesi. Mae’n parhau’n fan addoli pwysig ac yn gyrchfan rhyfeddol i’r ymwelydd.
Mynediad am Ddim
Yng nghanol dinas Bangor.
½ milltir o orsaf drenau Bangor.
Mae digon o fysiau’n gwasanaethu Bangor. Ffoniwch Traveline Cymru ar 0871 200 2233 neu ewch ar-lein i http://www.traveline-cymru.info i gael y wybodaeth ddiweddaraf am gludiant cyhoeddus.
Yng nghanol dinas Bangor.
Yng nghanol dinas Bangor.
Hawdd.