Gweddillion anghysbell mynachlog ddiwyd ond cymedrol.
Mae ‘Cymer’ yn golygu ‘cydlifiad’ ac mae modd dod o hyd i adfeilion sylweddol Abaty Cymer gerllaw’r fan y mae’r Afonydd Mawddach ac Wnion yn cwrdd. Mae’n fan ar wahân a thawel sydd wedi’i amsugno’n rhannol gan fferm waith.
Roedd yr abaty’n eiddo i’r urdd Sistersaidd a chafodd ei sefydlu ym 1198 gan Maredudd ap Cynan, cefnder a chynghrair Llywelyn Fawr. Mae’r waliau sy’n sefyll heddiw’n dyddio i ran gynnar y 13eg ganrif ac roeddent yn rhan o’r eglwys. Gallwch barhau i gael syniad da o faint a siâp yr adeilad petryal syml hwn. Chwiliwch am y bwâu a’r tair ffenestr lansed dal sydd wedi goroesi ar y pen dwyreiniol. Gallwch weld hefyd weddillion y clwysty gerllaw.
Gwnaeth y mynachod a dreuliodd eu bywydau yma grafu bywoliaeth mewn amryw ffyrdd iddynt eu hunain. Ceir tystiolaeth iddynt ymhél â mwyngloddio a gweithio mewn metel. Roeddent yn magu defaid ac yn berchen ar stabl a ddarparodd geffylau i dywysogion Gwynedd. Yn ôl y dystiolaeth o’i adeiladau, fodd bynnag, nid yw Abaty Cymer, yn wahanol i rai o’i sefydliadau Sistersaidd eraill, i weld yn faterol gyfoethog.
Fodd bynnag, er gwaetha’r raddfa gymedrol hon, mae’r adfeilion yng Nghymer yn un o’r ychydig adfeilion sy’n sefyll o’r nifer fawr o dai Sistersaidd a sefydlwyd yng Nghymru yn y 13eg ganrif. Ac er eu bod yn gymharol dlawd, mae’n ymddangos yr oedd gan y mynachod rywfaint o arian i’w wario. Yn y 19eg ganrif, cafwyd hyd i gwpan cymun a phlât arian prydferth sy’n dyddio i’r 13eg ganrif gerllaw – mae’n siŵr iddynt gael eu cuddio pan gafodd y fynachlog ei darostwng ym 1537 dan Harri VIII.
Mynediad am Ddim
Ar ffordd fach, oddi ar yr A470, 2 filltir i’r gogledd o Ddolgellau.
9 milltir o orsaf drenau Abermaw.
Mae modd mynd i bentref Llanelltyd ar y bws o Ddolgellau. Ffoniwch Traveline Cymru ar 0871 200 2233 neu ewch ar-lein i http://www.traveline-cymru.info i gael y wybodaeth ddiweddaraf am gludiant cyhoeddus.
2 filltir i’r gogledd o Ddolgellau, ar ffordd fach oddi ar yr A470.
2 filltir i’r gogledd o Ddolgellau, ar ffordd fach oddi ar yr A470.
Hawdd. Mae esgidiau cerdded yn cael eu cynghori. Caniatâd i gŵn.